97É«Íø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Coroni'r Brenin: Partïon stryd

Published: 07/03/2023

Coronation 2023 Red-Blue [Small] Welsh.pngYn ystod y penwythnos 6 – 8 Mai 2023, bydd pobl yn dathlu Coroni Ei Fawrhydi Y Brenin.

Yn ogystalÌý â nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a drefnwyd, mae pobl i fyny ac i lawr y DU yn cael eu hannog i ddod at ei gilydd a dod â dathliadau’r Coroni i ganol eu cymunedau eu hunain.

Darllenwch y wybodaeth isod os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint ac am gynllunio dathliad cymunedol.

Parti stryd yw digwyddiad bach ar gyfer trigolion lleol a'u teuluoedd (am ddim); nad yw'n cael ei hysbysebu i'r gymuned ehangach.Ìý Caiff ei gynnal mewn ty neu ardd, mewn man gwyrdd lleol neu ar ffordd breswyl dawel.Ìý ÌýY trigolion lleol fydd yn darparu’r bwyd ac ni chaniateir gwerthu alcohol.Ìý Caniateir chwarae cerddoriaeth heb seinchwyddwr rhwng 8am ac 11pm (oni bai bod Hysbysiad Digwyddiad Dros-dro yn ei le).

Gellir gwerthu tocynnau raffl ar gyfer elusen neu achos da ar y diwrnod am wobrau gwerth llai na £500.Ìý

Os yw hyn yn swnio fel eich digwyddiad chi a’ch bod yn bwriadu ei gynnal ar isffordd breswyl, lle na fydd fawr o effaith ar draffig trwodd, bydd angen i chi wneud cais am Orchymyn Traffig Dros Dro (TTRO).Ìý Ìý

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 31 Mawrth 2023.Ìý .Ìý

Ìý