Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathliadau ar gyfer Pen-blwydd Mary yn 100!
Published: 19/06/2018
Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un arall o drigolion y Sir i
ddathlu pen-blwydd arbennig.
Cynhaliwyd te pnawn ar 17 Mehefin i ddathlu pen-blwydd Mary Griffiths, Mather
gynt, yn 100 oed.
Yn enedigol o Ruddlan, a鈥檙 hynaf o 6 o blant, daeth i鈥檙 Wyddgrug yn 5 oed ac
yno y bu鈥檔 byw nes iddi symud i鈥檙 Fflint gyda鈥檌 gwr Harold a鈥檌 mab Jim, bron i
60 mlynedd yn 么l.
Bu Mrs Griffiths yn gweithio yn y ffatri fwledi a chetris yn Rhydymwyn yn ystod
y rhyfel, tra bu ei gwr i ffwrdd am 6 mlynedd yn gwasanaethu gydar Ffiwsilwyr
Brenhinol Cymreig yn Burma. Bu hefyd yn gwirfoddoli gyda鈥檙 Groes Goch ac yn
cynorthwyo yn ysbyty Yr Wyddgrug cyn mynd i weithio yn Woolworths ac yna yn
Ysgol Uwchradd y Fflint.
Mae gan Mrs Griffiths nifer o gymdogion a chyfeillion da a ymunodd 芒 hi a鈥檌
theulu i ddathlu鈥檙 achlysur hapus hwn.