97É«Íø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canolfan Deulu Gronant - helpu’r amgylchedd

Published: 18/01/2023

family info service logo.jpgMae Canolfan Deulu Gronant sy’n rhan o Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint yn mwynhau gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau yn eu cymuned leol.Ìý ÌýDyma ambell stori galonogol i godi calon ar nosweithiau oer a thywyll!

Annog y gwenoliaid!

Y gaeaf hwn maen nhw wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ar brosiect i gynnwys y gymuned ond hefyd i helpu ein bywyd gwyllt.Ìý

Mae Gronant yn ardal boblogaidd iawn ar gyfer gwenoliaid a gan fod y rhywogaeth dan fygythiad ac yn dirywio mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn gweithio gyda chymunedau i’w helpu nhw.Ìý Dyma nhw’n edrych ar y lle gorau i osod lloches - man cysgodol, yn uchel i fyny ac yn wynebu’r gorllewin. Gosodwyd y lloches ym mis Rhagfyr.

Swift Boxes small.jpgMae’r safle yn un delfrydol - i fyny’n uchel ac uwchben to fflat ac mewn lleoliad sy’n weladwy i’r plant o’r lleoliadau plant.Ìý ÌýMae’r ganolfan hefyd eisiau cynnwys y plant mewn holiaduron i gofnodi gweithgaredd a’i fwydo yn ôl i’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.Ìý ÌýMae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi darparu ffeiliau sain i’r plant eu chwarae yn y gwanwyn i annog y gwenoliaid i nythu yno.Ìý Ìý

Coeden ar gyfer y JiwbilîÌý

Mae’r Ganolfan wedi bod yn gartref i Sefydliad y Merched ers blynyddoedd.Ìý ÌýDyma grwp rhagweithiol ac egnïol sy’n cadw’n brysur ac yn weithgar gyda phrosiectau a gweithgareddau gwahanol a diddorol.Ìý

O gwmpas cyfnod Jiwbilî platinwm y Frenhines fe ofynnodd y grwp os fyddai’n bosib plannu coeden ar y tir i dalu teyrnged i’r digwyddiad.Ìý ÌýDyma nhw’n dewis coeden geirios sy’n blodeuo. Coeden ddelfrydol i fwynhau blodyn y gwanwyn.Ìý

WI Tree Planting 3.jpgArchebwyd y goeden ond nid oedd ar gael tan yr Hydref - amser plannu coed.Ìý ÌýYn anffodus, bu’r Frenhines farw ym mis Medi.Ìý ÌýOnd penderfynwyd plannu coeden yr un fath ym mis Tachwedd gyda phawb yn ymgasglu i dalu teyrnged a dangos parch i’r Frenhines.Ìý ÌýMynychodd y plant o’r lleoliadau plant hefyd a dyma nhw’n mwynhau cymryd rhan yn y plannu.Ìý Cafodd carreg ei gosod i nodi’r achlysur ac mae pawb yn edrych ymlaen rwan i weld y goeden yn blodeuo yn y gwanwyn.Ìý

Am fwy o wybodaeth ar y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, cysylltwch â fisf@flintshire.gov.uk, neu ffoniwch 01352 703500.

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý