97ɫ

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cnoi cil ar eich bwyd!

Published: 12/12/2022

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i chi edrych eto ar y bwyd rydych yn ei brynu a chnoi cil ar hyn dros dymor y gwyliau.

Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2022 fe ailgylchwyd bron i 4,700 tunnell o wastraff bwyd gennym yn Sir y Fflint. Caiff y gwastraff bwyd hwn ei gludo i gyfleuster treulio anaerobig yn Rhuallt lle caiff ei droi’n fio-nwy a bio-wrtaith. Mae hyn yn cynhyrchu trydan i roi pwer i’n cartrefi a gwrteithiau i ffermwyr er mwyn tyfu ein bwyd. I ddarganfod mwy am y broses gwyliwch .

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes:

“Mae’n wych ein bod yn ailgylchu gwastraff bwyd ond rydym yn gwybod fod yna lawer o wastraff bwyd yn cael ei roi yn y bin du o hyd. Mae tua chwarter y gwastraff a gaiff ei roi yn y bin du yn fwyd a allai gael ei anfon i’w ailgylchu; fodd bynnag, rydym yn gwybod fod y rhan fwyaf o’r bwyd hwn yn parhau i fod mewn cyflwr bwytadwy!

“O ystyried yr effaith y gall tyfu, cynhyrchu, cludo a gwaredu bwyd ei gael ar yr amgylchedd, mae angen i ni weithredu ac nid oes amser gwell i ddechrau ar hynny nag adeg y Nadolig pan rydym yn gweld cynnydd mewn ailgylchu a gwastraff bob blwyddyn.”

Roast dinner Welsh.jpgI helpu gyda chynllunio a rheoli’r cyfanswm o fwyd rydym yn ei brynu a’i fwyta mae’r ymgyrch ‘Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff’ wedi darparu cyngor ar gamau syml y gallwn ni i gyd eu defnyddio i leihau’r cyfanswm o fwyd rydym yn ei wastraffu. Gallwch weld canllaw ar gynllunio eich trefn wythnosol o ran bwyd ar eu gwefan: .

Os ydych yn canfod fod gennych chi ormod o fwyd, ystyriwch ei roi fel y gall eraill yn y gymuned wneud defnydd ohono. Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond bwyd heb ei ddefnyddio/heb ei agor y mae modd ei roi i’r cyfleusterau hyn.

Os oes gennych chi wastraff bwyd ar ôl fe allwch ystyried ei gompostio i’w ddefnyddio yn ôl yn eich gardd fel cyflyrwr pridd. I gael canllaw syml ar sut i wneud hyn edrychwch ar .

leftovers.jpgMae llawer ohonoch yn defnyddio’r gwasanaeth casglu ymyl palmant ar gyfer gwastraff bwyd ond os nad ydych yn gwneud hynny dechreuwch ei ddefnyddio! i ddarganfod lle y gallwch wneud cais am gynwysyddion bwyd a bagiau.

Mae yna gynifer o fanteision o ddefnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol sef:

• Mae’n ddull mwy amgylcheddol gyfeillgar o waredu gwastraff;

• Mae’n ein helpu ni i gyflawni ein targedau ailgylchu cenedlaethol;

• Mae’n lleihau arogleuon o wastraff bwyd yn pydru am bythefnos yn y bin du ac mae’n lleihau’r perygl o bryfetach.

Mae pob darn o fwyd a wastraffir yn cael effaith ar yr amgylchedd - cludiant, tanwydd, dwr, ynni - mae hyn i gyd yn adio. A thra bod gan lywodraethau a busnesau ran bwysig i’w chwarae, caiff 70% o’r bwyd a gaiff ei wastraffu yn y DU ei wastraffu gennym ni yn ein cartrefi ein hunain. Caiff chwarter o hyn, 1.1 miliwn tunnell, ei wastraffu bob blwyddyn yn syml gan ein bod yn paratoi, coginio neu’n gweini gormod.

Gan ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda ac iach i bawb oddi wrth y tîm ailgylchu.