97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Published: 18/06/2018

Nes ymlaen y mis hwn, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint adolygu adroddiad drafft ar berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol ac ystyried a ywr adroddiad yn darparu cyfrif cywir a chlir o ofal cymdeithasol yn Sir y Fflint. Hon yw ail flwyddyn y fformat newydd ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol sy鈥檔 cael ei baratoi o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Er gwaethaf pwysau ariannol a chapasiti, mae Sir y Fflint wedi parhau i gynnal a gwellar gefnogaeth a roddir i鈥檔 dinasyddion mwyaf bregus. Mae gan y Cyngor lawer iw ddathlu o ran y gwaith a wnaed i hyrwyddo a gwella lles pobl yn y Sir, gan gynnwys: 1. Cynnal adolygiad strategol mewn partneriaeth gyda鈥檔 budd-ddeiliaid gan adnabod nifer o fentrau i wella鈥檙 sector gofal, er enghraifft, datblygu gwefan Care@97色网 sy鈥檔 cefnogi darparwyr i recriwtio a chadw staff, hyfforddi, hysbysebu digwyddiadau, rhannu arfer da a rhwydweithio gyda鈥檌 gilydd. 2. Ymrwymo i bartneriaeth gyda Hft, elusen genedlaethol sydd yn arbenigo mewn cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu i gyflwyno gwasanaethau dydd a gwaith gwell ar draws Sir y Fflint. 3. Ymrwymo i fuddsoddi 拢4miliwn o鈥檔 rhaglen gyfalaf ar gyfer canolfan anableddau dysgu gymunedol newydd a fydd yn cymryd lle yr hen ganolfan ddydd Glanrafon yn Queensferry. 4. Sefydlu Canolfan Cymorth Cynnar arloesol aml-asiantaeth sydd yn arwain y sector yn Sir y Fflint, a gafodd ei lansio鈥檔 swyddogol yn gynharach y mis yma gan Gomisiynydd Plant Cymru. 5. Gweithredu cynllun peilot Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus. Mae arwyddion cynnar yn dangos bod y cynllun yn un or prif wasanaethau yng Nghymru sy鈥檔 cefnogi pobl n么l mewn i waith, yn lleihau鈥檙 risg o dlodi ac yn cefnogi lles plant. Yn wir, gofynnwyd i鈥檔 t卯m yn Sir y Fflint i ymestyn y cynllun mewn i Wrecsam a Sir Ddinbych. Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol: 鈥淢ae鈥檙 adroddiad cynhwysfawr yma鈥檔 gosod sefyllfa gadarnhaol y gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint ac yn dangos er gwaethaf y pwysau ar wasanaethau, mae ein staff yn parhau i ddarparu gwasanaethau ardderchog i gefnogi dinasyddion mwyaf diamddiffyn yn y sir. Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn nodi rhaglen lawn o welliannau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant, er mwyn ymateb i anghenion yn y dyfodol ac i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cadw eu henw da cadarnhaol鈥. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint: 鈥淢ae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn asesiad teg on perfformiad fel gwasanaeth y llynedd. Mae鈥檔 braf gweld bod gwaith da wedi cael ei gyflawni yn gyffredinol. Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon, a byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd i wella, yn enwedig yn ystod cyfnod economaidd mor heriol sydd hefyd yn arwain at alw cynyddol ar ein gwasanaethau鈥. Mae blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys: 路 Gwneud y wybodaeth ar y wefan yn fwy ystyrlon i unigolion iw helpu i ddod o hyd i鈥檙 wybodaeth gywir i gefnogi eu lles. 路 Gwella lles emosiynol ac iechyd meddwl ymadawyr gofal, gan gynnwys ymrwymiad iw helpu i fod yn barod ar gyfer gwaith. 路 Parhau 芒n gwaith ar gyfer prosiectau Gofal Ychwanegol y Fflint a Threffynnon. 路 Parhau i ddatblygu gwasanaeth dydd Glanrafon, mae disgwyl i鈥檙 adeilad newydd gael ei gwblhau ym mis Mai 2019. 路 Datblygu cynigion ar gyfer ymestyn Cartref Gofal y Cyngor, Marleyfield House. Bydd yr adroddiad ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint erbyn 31 Gorffennaf 2018.