Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Published: 18/05/2018
Cabinet yn ystyried cynnydd blynyddol cadarnhaol y Cyngor
Gofynnir i Aelodaur Cabinet ystyried adroddiad syn ymdrin 芒 pherfformiad a
chyflawniadau yn erbyn mesurau, cerrig milltir ar risgiau a nodir yng
Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 pan maent yn cyfarfod ar ddydd Mawrth, 22
Mai.
Mabwysiadwyd Cynllun y Cyngor 2017/23 gan y Cyngor ym Medi 2017. Mae Cyngor Sir
y Fflint wedi perfformio鈥檔 dda yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan
brofi unwaith eto ei fod yn Gyngor sy鈥檔 perfformion uchel. Mae hwn yn
adroddiad cadarnhaol arall, gydag 83% o weithgareddau wedi鈥檜 hasesu fel gwneud
cynnydd da, a 71% wedi cyflawni鈥檙 canlyniad a ddymunwyd. Mae dangosyddion
perfformiad yn dangos cynnydd da, gyda 57% yn bodloni neu鈥檔 agos at darged y
cyfnod. Maer risgiau yn cael eu rheolin llwyddiannus hefyd, gydar mwyafrif
wediu hasesu fel cymedrol (63%)) neu fach (8%) neu鈥檔 ansylweddol (6%).
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
鈥淒rwy Gynllun y Cyngor, rydym yn blaenoriaethu ardaloedd a gwasanaethau sy鈥檔
bwysig i鈥檔 cymuned. Mae鈥檔 cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn i asesu a ydym
am gyflawni ein targedau. Er gwaethaf yr heriau ariannol nas gwelwyd o鈥檙
blaen, mae鈥檙 Cyngor yn parhau i fod yn sefydliad sy鈥檔 perfformio鈥檔 dda, ac
rwy鈥檔 hapus fod gennym lawer o lwyddiannau i fod yn falch iawn ohonynt.
Mae rhai o鈥檙 llwyddiannau hynny yn cynnwys:
路 Llwyddo i sefydlu cwmni elusennol, ym mherchnogaeth y gweithwyr, o鈥檙 enw
Aura, i reoli gwasanaethau hamdden, llyfrgell a threftadaeth yn y sir, o 1 Medi
2017. Ers yr amser hwnnw, maent wedi cadw gwasanaethau a swyddi wrth wneud
arbediad effeithlonrwydd o 10% yn y gyllideb yn 2017/18 (effaith flwyddyn lawn
o 拢0.574m). Yn ogystal, bydd dau ddatblygiad cyfalaf mawr, yng Nghanolfan
Hamdden yr Wyddgrug, a Phafiliwn Jade Jones yn y Fflint, sy鈥檔 werth 拢2.4m, yn
cael eu cwblhau eleni, wedi鈥檜 hariannu gan Aura am ddim cost i鈥檙 Cyngor na
phreswylwyr Sir y Fflint.
路 Parhau i adeiladu cartrefi cyngor newydd, drwy ehangu ar y rhaglen i
Goed-llai, yr Wyddgrug a鈥檙 Fflint, gyda 95 o gartrefi cymdeithasol a
fforddiadwy鈥檔 cael eu hadeiladu yn ystod 2017/18, gyda 31 uned arall yn cael eu
cwblhau yn ystod Ebrill 2018.
路 Parhau i wella tai cyngor gyda dros 拢19m wedi鈥檌 fuddsoddi yn 2017/18.
Gosododd y t卯m 1,000 o geginau newydd, 1,500 o ystafelloedd ymolchi newydd,
disodli 100 o foeleri a gwres canolog, ac fe gafodd 250 o gartrefi welliannau
toi ac elfennau allanol eraill.
路 Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn parhau gyda datblygiad mawr o Ysgol
Uwchradd Cei Connah, ac ysgol iau newydd sbon yn cael ei hadeiladu ym
Mhenyffordd, i ddisodli鈥檙 ysgolion babanod ac iau cyfredol.
路 At ei gilydd yn 2017/18, bu 211 o ymholiadau busnes newydd, gan arwain at
greu 2,341 o swyddi, a phum menter gymdeithasol newydd. Fe wnaeth 3,746 o bobl
busnes ymgysylltu 芒 Sir y Fflint mewn Busnes a Fforymau Busnes yn ystod y
flwyddyn. Mae cyfran yr ymholiadau busnes sy鈥檔 trosi i fuddsoddiadau yn parhau
i aros yn uchel ar 89%, gan ddangos bod Sir y Fflint yn lle gwych i wneud
busnes.
路 Fe wnaeth 620 o bobl gwblhau rhaglenni wedi鈥檜 comisiynu gan y Cyngor, sy鈥檔
cyflawni canlyniadau swyddi a hyfforddiant.
路 Mae Llys Raddington yn y Fflint bron wedi鈥檌 gwblhau, a bydd yn darparu 72
uned o ofal ychwanegol.
路 Mae Credyd Cynhwysol yn un o鈥檙 diwygiadau lles mwyaf sylweddol hyd yma, ac
mae Sir y Fflint yn Cysylltu wedi chwarae rhan allweddol wrth ddarparu
cefnogaeth i鈥檙 rhai yr effeithir arnynt, gan ddelio 芒 3,340 o ymholiadau ers ei
gyflwyniad ym mis Ebrill 2017.
路 Sicrhau cyllid ar gyfer Canolfan Ailgylchu Cartref newydd i wasanaethu鈥檙
Fflint a Chei Connah, a gwelliannau i Ganolfannau Ailgylchu Cartref eraill yn y
Sir.
Mae adnoddau yn parhau i fod yn her, ond er gwaethaf hyn, maer Cyngor wedi
gallu pennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19 drwy ddefnyddio atebion y
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a chymryd ymagwedd risg cytbwys, o reoli
pwysau cost ac amrywiadau yn ystod y flwyddyn.
Mae perfformiad ar draws y Cyngor yn parhau i fod yn gryf; fe wnaeth dros 57% o
fesurau fodloni neu ragori ar dargedau, ac roedd hanner yr holl ddangosyddion y
gellid eu mesur yn eu herbyn y llynedd, wedi aros yn sefydlog neu wedi gwella.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
鈥淓r gwaethaf pwysau ariannol mawr a llai o gyllid cenedlaethol, mae Sir y
Fflint wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i gyflawni ei nodau am flwyddyn
arall. Mae rhai prosiectau wedi dod i ben, mae rhai yn parhau ac am symud ir
flwyddyn nesaf, wrth i Sir y Fflint barhau i gyrraedd a rhagori ar dargedau, er
gwaethaf yr heriau economaidd parhaus.