Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Stryd Fawr Treffynnon
Published: 08/05/2018
Mae Cyngor Tref Treffynnon yn bwriadu gadael i gerbydau ddefnyddio Stryd Fawr
Treffynnon am gyfnod prawf o wyth mis.
Mae hyn yn deillio o waith dros y misoedd diwethaf, pan gwblhaodd y Cyngor Tref
waith dwys a chynnal ymgynghoriad gydar gymuned fusnes leol, gan weithio mewn
partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint a Grwp Busnes Treffynnon.
Tuag at ddiwedd y cyfnod prawf, bydd pleidlais gymunedol yn cael ei chynnal i
ymgynghori鈥檔 swyddogol gyda phreswylwyr, busnesau a defnyddwyr i werthuso eu
barn am y cynllun.
Pasiodd Cyngor Tref Treffynnon benderfyniad i dreialu caniat谩u cerbydau ar y
Stryd Fawr a chynnal pleidlais gymunedol yn ddiweddarach, ac mae鈥檙 Cynghorwyr
Sir lleol yn llwyr gefnogi Cyngor Tref Treffynnon, Cyngor Sir y Fflint a鈥檙
gymuned fusnes wrth ymgymryd 芒鈥檙 broses hon.
Mae鈥檙 cyfnod prawf yn cychwyn ar 8 Mai a bydd yn cael ei fonitron agos i
sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd ar palmentydd, gan gynnwys adolygu
effeithiolrwydd y cynllun a鈥檌 effaith ar fusnesau lleol a鈥檙 gymuned ehangach.
Bydd mesurau gorfodi yn cael eu gweithredu o ddechrau鈥檙 cyfnod prawf ymlaen,
gyda chais gan y Cyngor bod pawb syn defnyddior stryd yn gwneud hynny mewn
modd briodol wrth barchur rheoliadau a鈥檙 mesurau rheoli traffig.
Os bydd y cyfnod prawf yn llwyddiannus, ac ar 么l ystyried barn y preswylwyr yn
ofalus, bydd y grwp partneriaeth yn ceisio nawdd i gymryd y camau angenrheidiol
i weithredu cynllun parhaol yn y dyfodol, yn amodol ar grant llwyddiannus a
chais am nawdd.