Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lanterni Awyr
Published: 14/12/2017
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried gwahardd lanterni awyr rhag
cael eu gollwng o dir sy鈥檔 eiddo i鈥檙 Cyngor yn ei gyfarfod yn ddiweddarach y
mis hwn.
Mae pryder cynyddol gan ystod eang o fudd-ddeiliaid am effaith posibl y
lanterni hyn a balwnau heliwm ar dda byw ar amgylchedd. Mae pryderon penodol
yn cynnwys y peryglon i les anifeiliaid drwy lyncu鈥檙 gweddillion, sbwriel yn y
wlad, yn y m么r ac ar yr arfordir, peryglon i awyrennau a鈥檙 effeithiau ar
wasanaethau achub arfordirol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
鈥淎rgymhellir bod y Cyngor yn cyflwyno gwaharddiad ar ollwng lanterni awyr o
dir a reolir ac sy鈥檔 eiddo i鈥檙 Cyngor. Unwaith y caiff ei gytuno, byddwn yn
sicrhau bod y gwaharddiad hwn yn cael ei gyfleu鈥檔 eang er mwyn sicrhau bod pawb
yn ymwybodol or peryglon syn gysylltiedig 芒 lanterni awyr.