97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru

Published: 22/11/2017

Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol Cyngor Sir y Fflint wneud sylw ar gynnydd darpariaeth yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru pan fydd yn cwrdd yr wythnos nesaf. Ar hyn o bryd maer Gwasanaeth Llyfrgell yn gweithredu model y mae鈥檙 Cyngor or farn ei fod yn bodloni anghenion cymunedol. Caiff hyn ei gydnabod gyda 99% o oedolion yn sgorio鈥檙 gwasanaeth fel bod yn dda neu鈥檔 ddau iawn (yr ail sg么r uchaf yng Nghymru) a gyda plant yn sgorio鈥檙 gwasanaeth yn 10 allan o 10 (y sg么r uchaf yng Nghymru). Fodd bynnag os yw gostyngiadau pellach yn cael eu gwneud oherwydd anghenion caledi gan lywodraeth y Deyrnas Unedig yna ni fydd y gwasanaeth yn gallu diwallu anghenion cymunedol a bydd perfformiad yn erbyn y safonau hyn yn dirywio鈥檔 sylweddol. Mae cadernid y gwasanaeth mewn peryg a chaiff hyn ei arddangos, oherwydd er bod y gwasanaeth yn cyflawni perfformiad da gyda鈥檌 gyllideb gyfredol yn erbyn hawliau craidd a dangosyddion safon gyda thargedau, mae perfformiad ar draws meysydd eraill y fframwaith yn gymysg. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: 鈥淩ydw i鈥檔 falch bod y gwasanaeth llyfrgell wedi gwneud camau sylweddol ymlaen eleni, gyda gwelliannau wedi eu cynllunio yn erbyn y safonau o ran oriau agor a mynediad at fand eang. 鈥淢ae鈥檔 wych gweld bod y gwasanaeth yn cadw ei lefelau boddhad cwsmer uchel, ac yn gyntaf yng Nghymru o ran boddhad plant ac yn ail yng Nghymru o ran boddhad oedolion. Mae hyn yn ategu鈥檙 ffaith fod ein model llyfrgelloedd yn Sir y Fflint yn iawn, ac rydym yn gwybod bod y model hwn yn gynaliadwy yn erbyn gostyngiadau pellach sydd wedi eu cynllunio yn y gyllideb. 鈥淔odd bynnag byddai unrhyw effeithiau cyllidol oherwydd dull y DU o ddelio 芒 chaledi ariannol, o bosib yn effeithio cadernid y gwasanaeth cymunedol pwysig hwn.