97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archifdy Sir y Fflint yn dathlur Nadolig

Published: 22/11/2017

Mae Archifdy Sir y Fflint wedi cynhyrchu cyfres o Gardiau Nadolig i nodi Nadolig olaf canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae鈥檙 lluniau wedi鈥檜 sganio o gardiau gwreiddiol a ddaeth i鈥檙 Archifdy yn 2016, fel rhan o gasgliad mwy o gofnodion y teulu Davies/Lambert ac maent yn cynnwys darluniau brodwaith ar ffurf cerdyn post. Defnyddiwyd y math hwn o gerdyn yn aml gan filwyr er mwyn anfon negeseuon yn 么l adref, ac roedd y brodwaith yn cael ei greu gan fenywod o Wlad Belg fel ffordd o wneud ychydig o arian, ac yn nes ymlaen, wrth ir cardiau ddod yn fwy poblogaidd, cawsant eu cynhyrchu ar lefel ddiwydiannol. Anfonwyd y cardiau gan y Preifat Howell Davies, 2il Fataliwn, y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol at ei ddarpar wraig Margaret May tra oedd yn gwasanaethu yn Ffrainc. Goroesodd y rhyfel a setlodd gyda May yng Nghei Connah. Dywedodd ei wyres, Mrs Lambert: 鈥淩ydym yn falch iawn fod yr Archifdy wedi dewis selio eu cardiau Nadolig ar y darluniau hyn. Mae鈥檔 eithaf emosiynol eu gweld wedi eu hargraffu ac yn cael eu prynu a鈥檜 hanfon at gymaint o bobl, maen cadwr canmlwyddiant yn fyw ac yn gwneud i ni gyd sylweddolir aberth fawr y gwnaeth pobl fel fy nhaid i gadwr wlad hon yn ddiogel. Dywedodd y Prif Archifydd, Claire Harrington: 鈥淎m y pedair blynedd diwethaf, mae鈥檙 Archifdy wedi cynhyrchu cerdyn Nadolig i鈥檞 werthu i鈥檙 cyhoedd. Rydym bob amser yn ceisio dewis thema sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 amser ac roedd hyn yn ymddangos fel ffordd ddelfrydol o nodi Nadolig olaf canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn gwerthfawrogi鈥檙 ystyr y tu 么l i鈥檙 cardiau ac rydym yn ddiolchgar i鈥檙 teulu Davies/Lambert am ein caniat谩u i ddefnyddior darluniau. Mae casgliad mawr o ddogfennau鈥檔 ymwneud 芒r Rhyfel Byd Cyntaf yn yr Archifdy, gan gynnwys Mynegai Cerdyn Cofio sydd bron yn gyflawn o bob milwr fu鈥檔 gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, pa un ai wnaethant oroesi neu farw. Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: 鈥淩wy鈥檔 falch fod yr Archifdy wedi dewis anrhydeddur bobl wnaeth wasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf drwy gynhyrchu鈥檙 cardiau Nadolig hyn. Mae鈥檔 ein hatgoffa o鈥檙 aberth fawr a wnaed gan y rheini fu鈥檔 gwasanaethu fel y gallwn fwynhau ein rhyddid heddiw.鈥 Bydd y cardiau yn cael eu gwerthu mewn cyfresi o 6 (2 o bob dyluniad) a byddant yn costio 拢3. Gellir eu prynu yn yr Archifdy ym Mhenarl芒g, y siop yn Theatr Clwyd ar Swyddfa Bost ym Mhenarl芒g. Gallwn gymryd taliad dros y ff么n hefyd, a鈥檜 postio i chi wedyn am ffi bostio fechan. Cysylltwch 芒鈥檙 Archifdy ar 01244 532364.