Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diweddariad SHARP
Published: 13/11/2017
Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn derbyn
adroddiad ar gynnydd y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) pan fydd yn
cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn.
Nod yr adroddiad yw darparu manylion cynlluniau unigol sydd ar waith neun cael
eu hystyried fel rhan or rhaglen. Mae鈥檙 rhaglen yn cael ei darparu fesul cam.
Mae cam un yn cynnwys Custom House yng Nghei Connah, lle codwyd 12 ty cyngor
newydd y llynedd. Mae gwaith adeiladu 92 ty arall yn The Walks yn y Fflint yn
mynd rhagddon dda.
Mae cam dau yn darparu 49 ty cyngor newydd yn:
路 Red Hall, Cei Connah (a gwblhawyd fis Hydref)
路 Safleoedd garejis ym Maes y Meillion a Heol y Goron, Coed-Llai (bydd y gwaith
yn cael ei gwblhau ddechrau 2018)
路 Safle Ysgol Delyn, yr Wyddgrug (a fydd yn barod fis Mawrth 2018)
路 Safle hufenfa, Cei Connah (bydd y gwaith yn dechrau fis Ionawr 2018)
路 Hen Ganolfan Melrose, Aston (bydd y gwaith yn dechrau fis Rhagfyr 2017)
Mae cam tri yn cynnwys y safleoedd posibl canlynol sydd ar gamau datblygu
gwahanol, ac mae鈥檔 cynnwys cymysgedd o dai cyngor, tai fforddiadwy a
chynlluniau rhannu ecwiti:
路 Maes Gwern, yr Wyddgrug (cais cynllunio wedi ei gymeradwyo)
路 Ffordd Hiraethog a Ffordd Pandarus, Mostyn
路 Llys Dewi, Penyffordd (Treffynnon)
路 Borough Grove, y Fflint
路 Hen Ddepo鈥檙 Cyngor, Dobshill
路 Nant y Gro, Gronant
路 Hen Ddepo Canton, Bagillt
路 Llys Alun, Rhyd-y-mwyn
路 Tir ar Rhodfa Sealand, Garden City
Gall y safleoedd hyn ddarparu 233 o dai ychwanegol, gan ddod 芒鈥檙 cyfanswm tai i
386.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
鈥淩wyf yn falch iawn o鈥檙 cynnydd sy鈥檔 cael ei wneud wrth ddarparu SHARP. Wrth
i鈥檙 galw am dai cymdeithasol a thai fforddiadwy yn ein cymunedau barhau i
gynyddu, mae鈥檔 rhaid i ni gynnal momentwm ein cynlluniau uchelgeisiol i gwrdd
芒鈥檙 galw hwnnw. Rydym ni鈥檔 parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i godi cap Sir y
Fflint ar fenthyca er mwyn i ni adeiladu mwy a diwallu anghenion lleol.
鈥淢ae鈥檙 safleoedd newydd hyn yng nghanol ein cymunedau ac maent yn gallu darparu
rhagor o eiddo o ansawdd uchel, helpu i gynnal y cymunedau hynny a chreu
cyfleoedd gwaith.鈥