97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau yn Gyntaf a Strydwedd yn dod at ei gilydd i gynnig hyfforddiant

Published: 06/11/2017

Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint a th卯m Strydwedd y Cyngor wedi bod yn cydweithio i greu cyfle newydd cyffrous i bobl allu cychwyn ar y llwybr tuag at waith. Gyda鈥檌 gilydd, maen nhw鈥檔 cynnig cwrs a fydd yn rhoi cyfle i drigolion lleol ddysgu sgiliau a chael hyfforddiant a phrofiad yn ymwneud 芒 gwaith yn yr adran Strydwedd. Mae鈥檙 cwrs tair wythnos yn dechrau ddydd Mawrth, 14 Tachwedd yn Nepor Cyngor yn Alltami (CH7 6LG), 9:30am tan 4pm. Os hoffech chi ychwanegu at eich CV gyda hyfforddiant achrededig a chyfleoedd am brofiad gwaith, yna dymar cyfle i chi. Yn yr wythnos gyntaf, bydd hyfforddiant ar nifer o bynciau, gan gynnwys codi a symud yn gorfforol, iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd cyfle wedyn i gael profiad gwaith ar ddiwrnodau blasu yn ystod yr ail wythnos. Yn olaf, yn y drydedd, bydd cwrs trimio a hyfforddiant ar ddelio 芒 gwastraff cyffredinol. Bydd hefyd yn cynnwys cymorth gyda鈥檆h CV, datblygu hyder, sgiliau cyflogadwyedd a chyfweliadau ffug, lleoliadau gwaith a chyfle i wneud cais am swyddi gwag o fewn yr adran Strydwedd. I gael gwybod mwy ac i gofrestru, cysylltwch 芒 Nia Parry o Gymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090 neu anfon e-bost at nia.parry@flintshire.gov.uk