97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Published: 24/10/2017

Trafodwyd perfformiad Cyngor Sir y Fflint yn ystod 2016-17 mewn cyfarfod Cabinet ddydd Mawrth 24 Hydref cyn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor. Mae鈥檙 adroddiad yn adlewyrchur cynnydd da a wnaed ar y cyfan yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2016/17, ac maen crynhoi cyflawniadaur sefydliad. Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gael ei lywodraethun dda a pherfformion dda. Mae ein perfformiad da cyson wedi cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol. Sir y Fflint ywr cyngor sydd wedi gwella fwyaf drwy Gymru wrth gymharu mesuryddion perfformiad tebyg. Mae rhai o鈥檔 llwyddiannau i鈥檞 gweld isod: 路 Cysylltodd dros 3,300 o gwsmeriaid 芒鈥檙 gwasanaeth tai am gyngor a chymorth. Cafodd 63.4% or ymholiadau hyn eu datrys ar y pwynt cyswllt cyntaf, gan ganiat谩u i鈥檔 timau arbenigol allu canolbwyntio ar y 36.6% o achosion cymhleth a brys a oedd ar 么l. 路 Roedd deuddeg o dai Cyngor newydd wedi鈥檜 cwblhau drwy raglen Tai ac Adfywio Strategol SHARP ar safle hen ysgol L么n Custom House a bydd gwaith yn parhau yn 2017/18. 路 Sicrhaodd y Cyngor 285 eiddo 鈥渆cwiti a rennir鈥 ar gyfer rhai a oedd yn prynu ty am y tro cyntaf drwy gyfraniadau datblygwyr. Mae datblygwyr hefyd wedi rhoi eiddo鈥檔 rhoddion i North East Wales (NEW) Homes sydd werth 拢3 miliwn. 路 Rydym wedi cefnogi gofal sy鈥檔 canolbwyntio ar y cwsmer mewn 16 o gartrefi preswyl a 3 cartref nyrsio drwy ddarparu hyfforddiant a chanllawiau 鈥淧rogress for Providers鈥. 路 Mae tair cymuned cyfeillgar i Ddementia yn Sir y Fflint ac mae pedair cymuned arall yn ymgeisio i gael y statws. Mae gennym bellach 38 o fusnesau sy鈥檔 gyfeillgar i Ddementia a 10 caffi cof. 路 Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod 芒 rhan allweddol mewn datblygu Cais am Fargen Twf Economaidd ar gyfer Gogledd Cymru gyda Llywodraethau Cymru ar DU. 路 Derbyniwyd 181 ymholiad busnes a daeth buddsoddiad o 158 or rheini, syn gyfradd o 87.2%. 路 Fe greodd ein partner datblygu ar gyfer y Rhaglen Tai Strategol ac Adfywio (SHARP) 12 o brentisiaethau, a 4 o鈥檙 rheini drwy gynllun rhannu prentisiaethau Sir y Fflint, Gwaith yn yr Arfaeth. 路 Mae Sir y Fflint yn uwch nar cyfartaledd rhanbarthol a chyfartaledd Cymru o ran y ganran o ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 syn cyflawni gwell canlyniadau mewn mathemateg 鈥 rydyn ni鈥檔 5ed drwy Gymru. Yng Nghyfnod Allweddol 2, rydym wedi gwella 2.2% ir lefel uchaf yng Ngogledd Cymru ac ir 6ed safle drwy Gymru. 路 Mae 57% o bobl ifanc oed ysgol Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg llawn amser (46% yw cyfartaledd Cymru). 路 Bu i ni helpu aelwydydd yn Sir y Fflint i gael incwm ychwanegol gwerth dros 拢1.5 miliwn drwy fudd-daliadau. 路 Cefnogodd Cymunedau yn Gyntaf 99 o bobl i gael gwaith llawn amser neu ran amser a helpu 247 o gleientiaid di-waith yn hirdymor i gael cymhwyster, i鈥檞 cynorthwyo i fod yn fwy parod am waith. 路 Roedd 87% or gweithwyr yn Neuadd y Sir yn gweithio鈥檔 hyblyg, sy鈥檔 golygu bod 819 o ddesgiau ar gyfer 944 o weithwyr. 路 Yn unol 芒 Strategaeth Ddigidol y Cyngor, roedd nifer y trafodion digidol ar-lein wedi cynyddu ac roedd 11,000 o gwsmeriaid yn dymuno gohebu gyda鈥檙 Cyngor ar-lein drwy鈥檙 wefan. Roedd cynnydd o 19% yn nifer y rhai a oedd yn defnyddio gwefan y Cyngor hefyd. Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: 鈥淢aer Cyngor yn gwneud cynnydd da mewn meysydd a nodwyd yn flaenoriaethau. Er gwaethaf pwysau ariannol mawr a llai o gyllid cenedlaethol, mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i gyflawni ei nodau am flwyddyn arall.鈥 Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢aer Cyngor wedi profi unwaith eto ei fod yn sefydliad syn perfformion dda, gan osod targedau a chyflawnir blaenoriaethau sydd wedi鈥檜 nodi yn y Cynllun Gwella.鈥 Mae鈥檔 rhaid cyhoeddi鈥檙 Adroddiad erbyn 31 Hydref, ac yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 24 Hydref, bydd gofyn i鈥檙 cynghorwyr gymeradwyo鈥檙 adroddiad i gael ei gyhoeddi. Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint nodi鈥檙 cynnydd ar waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Sir y Fflint a chefnogi them芒u鈥檙 BGC ar gyfer y Cynllun Lles pan fydd yn cyfarfod ar 24 Hydref. Ffurfiwyd y BGC ym mis Ebrill 2016, fel cyfrifoldeb statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau鈥檙 Dyfodol (Cymru) 2015. Mae wedi canolbwyntio ar lunior Asesiad Lles a datblygur Cynllun Lles a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2018. Ar ben hynny, mae鈥檙 BGC wedi parhau i weithio ar flaenoriaethau鈥檙 Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLl) blaenorol ac mae hefyd yn cynnal ei r么l statudol o鈥檙 Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o weithio mewn partneriaeth. Mae BGC Sir y Fflint yn greiddiol ir gwaith o hybu arferion cydweithio cadarnhaol ac maen canolbwyntio egni, ymdrech ac adnoddau ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon. Mae Asesiad Lles wedi鈥檌 lunio a鈥檌 gyhoeddi ar gyfer Sir y Fflint, yn unol 芒 gofynion statudol. Mae hwn yn rhoi darlun cyfoes o fywyd a lles yn Sir y Fflint. Mae鈥檙 Cynllun Lles yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethaur Dyfodol (Cymru) ac fe fydd wedii lunio ai gyhoeddi erbyn mis Mai 2018. Mae pum blaenoriaeth yn y cynllun hwn sydd wediu dewis gan mai yma maer BGC yn credu y gall ychwanegur gwerth mwyaf. Y rhain yw: 路 Lles a Bywn Annibynnol (hen flaenoriaeth y BGLl) 路 Diogelwch Cymunedol (hen flaenoriaeth y BGLl) 路 Cymunedau Gwydn (blaenoriaeth newydd) 路 Yr Economi a Sgiliau (blaenoriaeth newydd) 路 Yr Amgylchedd (blaenoriaeth newydd) Mabwysiadwyd them芒u a blaenoriaethau/is-flaenoriaethaur BGC yn ffurfiol gan holl aelodaur BGC ac mae gwaith ar fynd i osod y rhain yn y Cynllun Lles drafft. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd yn cychwyn ar y Cynllun y mis hwn ac fe ddaw i ben ym mis Ionawr 2018. Mae鈥檙 them芒u hyn hefyd wedi鈥檜 cyfleu yn glir yng nghynllun y Cyngor ei hun ar gyfer eleni, gan nodi cyfraniad ymrwymiadau鈥檙 Cyngor i鈥檙 Cynllun Lles. Ar 么l iddo gael ei gymeradwyo gan y BGC, bydd Cynllun Lles Sir y Fflint yn cael ei gyflwyno ir holl gyrff syn aelodau or Bwrdd iw gymeradwyo gyda golwg ar ei gyhoeddi yn gynnar ym mis Mai 2018. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Reolaeth Gorfforaethol ac Asedau: 鈥淒rwy鈥檙 Cynllun Lles, gall Cyngor Sir y Fflint ai sefydliadau partner yn y BGC sicrhau eu bod yn gweithio tuag at yr un amcanion er budd trigolion lleol. Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella bywydau pobl leol. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: 鈥淢ae Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ers amser maith ac mae blaenoriaethau鈥檙 BGC yn cyd-fynd 芒 Chynllun y Cyngor. Mae鈥檙 cymunedau rydyn ni鈥檔 eu gwasanaethu鈥檔 disgwyl ir partneriaid yn y sector statudol ar trydydd sector weithio gydai gilydd, gweithio at flaenoriaethau a rennir a chyflawni pethau, drwy ymdrechion ar y cyd.鈥 Polisi Diogelu Corfforaethol Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo鈥檙 Polisi Diogelu Corfforaethol pan fydd yn cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis. Mae diogelu鈥檔 berthnasol i bawb ym mhob gwasanaeth o fewn y Cyngor. Er mai鈥檙 Gwasanaethau Cymdeithasol ywr gwasanaeth sy鈥檔 arwain wrth ymdrin ag ymholiadau sy鈥檔 ymwneud 芒 honiadau a phryderon, mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu lles plant, pobl ifanc ac oedolion, beth bynnag fo鈥檜 r么l. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyd-gefnogwr Diogelu Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae鈥檙 polisin disgrifio rolau a chyfrifoldebau pob gweithiwr, yn ogystal ag aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. Mae鈥檔 cynnwys gwybodaeth am y gwahanol fathau o gam-drin, deall arwyddion camdriniaeth a sut i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd gennych. 鈥淣id ywr polisin disodlir trefniadau presennol o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol; yn hytrach, mae鈥檔 nodi dyletswydd y Cyngor fel sefydliad cyfan, gan egluror cyfrifoldebau ar bob lefel, waeth ym mha faes maen nhwn gweithio. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol a Chyd-gefnogwr Diogelu Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i鈥檞 gyfrifoldebau ac mae wedi cymryd camau cadarnhaol drwy sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol mewnol i sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae鈥檙 polisi o ganlyniad ir gwaith y mae鈥檙 Panel wedi鈥檌 wneud hyd yma.鈥 Bydd y polisi鈥檔 cael ei gefnogi gan sawl mesur sydd ar gael i weithwyr ac aelodau etholedig, gan gynnwys: 路 Cwestiynau cyffredin; 路 Dwy raglen e-ddysgu i ddiogelu plant a diogelu oedolion sydd ar gael ar-lein; 路 Darparwyd pedwar sesiwn hyfforddi diogelu gan AFTA Thought, sefydliad sy鈥檔 arbenigo mewn hyfforddi drwy ddrama, ym mis Mai a Mehefin a oedd yn trafod gwahanol faterion diogelu. Daeth bron i 300 o weithwyr i鈥檙 sesiynau hyn o sawl maes; 路 Bydd cyflwyniadau ar ddiogelu鈥檔 cael eu rhoi ir Pwyllgorau Craffu dros y misoedd nesaf i godi eu hymwybyddiaeth; 路 Cyhoeddi newyddlen ar Ddiogelu Corfforaethol i ategu mor bwysig yw adnabod a rhoi gwybod am bryderon ac i amlygu materion cyfredol. Polisi Cynhyrchu Incwm Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo Polisi Cynhyrchu Incwm pan fydd yn cyfarfod ar 24 Hydref 2017. Mae nifer o amcanion allweddol yn y polisi hwn i gynorthwyo wrth osod ffioedd a thaliadau addas sydd wediu meincnodi, ynghyd 芒 threfn o adolygun rheolaidd a monitro. Mae鈥檙 Cyngor wedi cynnal adolygiad o鈥檌 ffioedd a鈥檌 daliadau ac wedi casglu bod: 路 rhai o ffioedd y Cyngor yn briodol; 路 angen adolygu ffioedd eraill i sicrhau eu bod yn cwrdd 芒 chostau, lle bo hynnyn briodol; a 路 bod nifer o gyfleoedd i adennill ffioedd a thaliadau y gellir, ar sail gweithgarwch awdurdodau lleol eraill, eu hadennill yn gyfiawn. Dyma rai o brif amcanion y polisi: 路 Casglu cymaint 芒 phosib o incwm drwy adennill costaun llawn lle bo modd; 路 Sicrhau bod ffioedd yn adlewyrchu鈥檙 gallu i dalu; 路 Cymharu costau gyda鈥檔 sector ein hunain a鈥檙 farchnad; 路 Ystyried unrhyw gystadleuaeth i ddarparu鈥檙 gwasanaeth gan y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol; 路 Sicrhau bod ffioedd a thaliadau鈥檔 cael eu pennu mewn modd sy鈥檔 ategu amcanion polis茂au ehangach y Cyngor; 路 Casglu costau mor effeithlon 芒 phosib鈥, cyn y pwynt darparu a chynnig cymaint 芒 phosib o ffyrdd i gwsmeriaid dalu. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae ffioedd a thaliadau鈥檔 rhan bwysig o gynlluniau ariannol y Cyngor ac mae鈥檙 adolygiad a gynhaliwyd wedi ceisio sicrhau bod trefniadau clir ar waith i bennu, adolygu ac adennill ffioedd a thaliadau, gan ystyried gallu cwsmer i dalu. Ar adeg pan mae mwy o alw ar wasanaethau a llai o gymorth ariannol yn genedlaethol, mae鈥檔 hollbwysig, er mwyn i wasanaethau lleol fod yn wydn yn y dyfodol, bod y Cyngor yn gwneud y mwyaf oi allu i gasglu mathau eraill o incwm i leihau effaith toriadaur llywodraeth. Polisi鈥檙 Gymraeg yn y Gweithle Bydd gofyn ir Aelodau fabwysiadu Polisir Gymraeg yn y Gweithle ar gyfer Sir y Fflint yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ddydd Mawrth 24 Hydref. Pwrpas polisi鈥檙 Gymraeg yn y Gweithle yw: i) hyrwyddo agweddau positif ac annog gweithwyr i ymfalch茂o yn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. ii) cynyddu nifer y gweithwyr Cymraeg eu hiaith a darparu cyfleoedd i weithwyr sydd eisoes yn rhugl yn y Gymraeg ac ir rheiny sy鈥檔 dysgu i ddefnyddior Gymraeg yn y gwaith. iii) Annog amgylchedd gwaith dwyieithog lle mae gan weithwyr ryddid a chefnogaeth i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint: 鈥淏ydd gweithredu鈥檙 polisi hwn yn cefnogi鈥檙 Cyngor i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog a chydymffurfio 芒 Safonaur Gymraeg. Ymysg pethau eraill, byddwn yn gallu dibynnu llai ar wasanaethau cyfieithu, defnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith a denu a chadw mwy o weithwyr Cymraeg eu hiaith. Mae hefyd yn cefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor, sy鈥檔 anfon neges glir yn fewnol ac yn allanol bod y Gymraeg yn werthfawr y tu allan i鈥檙 ysgol a鈥檌 bod yn ased i gyflogaeth. 鈥淏ydd cynnig mwy o gyfleoedd i weithwyr weld, clywed, defnyddio ac ymarfer eu Cymraeg yn y gwaith yn eu cefnogi i fod yn fwy hyderus a medrus wrth wella ansawdd y gwasanaethau Cymraeg ir cyhoedd. Po fwyaf mae pobl yn cael eu trochi yn yr iaith, mwyaf y maent yn ei ddysgu. Mae her i allu鈥檙 Cyngor i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ar ffurf anhawster wrth recriwtio i swyddi sydd 芒 Chymraeg yn hanfodol. Er mwyn gwella鈥檙 sefyllfa, mae鈥檙 Cyngor yn adolygu pethau fel: 路 defnyddio geiriau ymarferol, hawdd eu deall i ddisgrifio lefel y sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer swyddi. Mae cyflogwyr sy鈥檔 defnyddio enghreifftiau penodol o鈥檙 lefel o sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y swydd yn hytrach na nodi Cymraeg hanfodol鈥 yn unig yn dweud eu bod wedi cael gwell hwyl ar recriwtio siaradwyr Cymraeg; 路 defnyddio cyfryngau Cymraeg i hysbysebu swyddi; a 路 datblygu datrysiadau eraill os nad oes modd recriwtio ymgeiswyr syn siarad Cymraeg, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i weithiwr ddysgu Cymraeg hyd at lefel benodol o fewn cyfnod penodol neu hyfforddi siaradwr Cymraeg i fodloni gofynion eraill y swydd. Ychwanegodd y Cynghorydd Mullin: 鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau y gallwn fodloni鈥檙 Safonau鈥檔 ymarferol, gan gydnabod daearyddiaeth a dadansoddiad demograffig ardal y Cyngor. Mae adnoddau i gefnogi rheolwyr a gweithwyr ar gael, gan gynnwys datblygu tudalen ar y fewnrwyd i ddarparu adnoddau ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Cyfamod y Lluoedd Arfog Bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo adroddiad blynyddol cyntaf y Cyngor ar Gyfamod y Lluoedd Arfog pan maen cyfarfod ar 24 Hydref. Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog au teuluoedd yn cael eu trin yn deg. Maer Cyfamod yn gyfrifoldeb cenedlaethol syn cynnwys y llywodraeth, busnesau, awdurdodau lleol, elusennau ar cyhoedd, gan annog cymunedau lleol i gefnogir lluoedd arfog yn eu hardal ac i hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth. Mae鈥檙 Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog drwy weithio gyda nifer o bartneriaid sydd wedi llofnodi ein Cyfamod, gan gynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a鈥檙 Lleng Brydeinig. Pwrpas Cyfamod Sir y Fflint yw annog cefnogaeth ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog sy鈥檔 gweithio ac/neu鈥檔 byw yn Sir y Fflint a chydnabod a chofio eu haberth. Mae grwp llywio amlasiantaeth wedi鈥檌 sefydlu ac mae鈥檙 Cynghorydd Andrew Dunbobbin, sef Cefnogwr y Lluoedd Arfog ar ran y Cyngor, yn cadeirio鈥檙 grwp. Mae鈥檙 grwp llywio wedi cwblhau hunanasesiad mewn perthynas 芒鈥檙 Cyfamod ac wedi datblygu cynllun gweithredu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 gwaith. Mae鈥檙 cyflawniadau allweddol wedi鈥檜 nodi yn yr adroddiad blynyddol ac maent yn cynnwys: 路 tudalen wedi鈥檌 neilltuo ar wefan y Cyngor sy鈥檔 darparu gwybodaeth a chymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog a dolenni i wefannau asiantaethau allweddol fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC); 路 ymrwymiad i鈥檙 Cyfamod yng Nghynllun y Cyngor 2017/18; 路 gweithredu Polisi Milwyr wrth Gefn sy鈥檔 rhoi pythefnos yn ychwanegol o wyliau i weithwyr syn filwyr wrth gefn iw galluogi i fynd ir gwersyll hyfforddi blynyddol a rhoi cefnogaeth ir rhai sydd wediu galw ymlaen iw cynorthwyo wrth ddod yn 么l ir gwaith a chynnal statws gwasanaeth parhaus; 路 cynnig cyfweliadau diamod i gyn-filwyr syn bodloni meini prawf hanfodol y swydd; 路 mae Cynlluniau Llety 芒 Chymorth i gyn-filwyr ar gael yn Sir y Fflint mewn partneriaeth 芒 First Choice Housing. Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin: 鈥淢ae鈥檙 Cyngor hefyd yn aelod gweithgar o Fforwm Lluoedd Arfog Rhanbarthol Gogledd Cymru sy鈥檔 cynnwys chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru a BIPBC. Mae cynnig llwyddiannus gan awdurdodau lleol Gogledd Cymru am gyllid am ddwy flynedd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi arwain at benodi dau Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog dros dro ar gyfer Gogledd Cymru. Bydd y swyddi hyn yn cefnogi awdurdodau lleol i weithredu鈥檙 Cyfamod a gweithio gyda gwasanaethau i ddiwallu anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog.鈥 Cais am Gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer Bryn y Beili Yn nes ymlaen yn y mis, bydd gofyn i aelodau o Gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno ar adroddiad ar gais am gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri Cam 2 ar gyfer Bryn y Beili yn yr Wyddgrug a chytuno ar gyfraniad y Cyngor. Mae Bryn y Beili鈥檔 brosiect arwyddocaol i wella amgylchedd treftadaeth y castell tomen a beili ym Mryn y Beili. Mae hyn yn cynnwys torri nifer o goed, gwella mynediad at y safle, creu ardal chwarae newydd a gosod dehongliadau ar hyd y safle gan gynnwys ardal arddangos yn y porthdy. Mae鈥檙 Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Chyngor Tref yr Wyddgrug a Grwp Cyfeillion Bryn y Beili. Llwyddwyd i sicrhau dyraniad o 拢43,000 o gais am gyllid o Gronfa Treftadaeth y Loteri Cam 1 yn 2016 i ariannur cam datblygu. Mae disgwyl i鈥檙 gwaith hwn ddod i ben cyn diwedd 2017, ac mae disgwyl i gais Cam 2 gael ei gyflwyno os ywr partneriaid yn cytuno ar y gwaith ar ddechrau 2018. Amcangyfrifir y bydd y gwaith pellach, sy鈥檔 cynnwys gwelliannau i鈥檙 fynedfa, adnewyddu a datblygu鈥檙 porthdy, gwella mynediad i鈥檙 beil茂au mewnol ac allanol, arwyddion a byrddau dehongli a rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau wediu harwain gan benodiad am gyfnod penodol o dair blynedd, yn costio cyfanswm o 拢1.38 miliwn, heb gynnwys yr ardal chwarae. Nid yw鈥檙 ardal chwarae鈥檔 gymwys yn 么l y Loteri Dreftadaeth, ond mae鈥檔 rhan allweddol o鈥檙 cynllun cyffredinol. Mae cyfraniad y Cyngor eisoes wedii neilltuo fel cyllid ar gyfer yr ardal chwarae. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: 鈥淔e gytunodd y Cabinet ym mis Mawrth y byddai cyllid cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i wella ardaloedd chwarae a chaeau pob tywydd. Fe gafodd ardal chwarae Bryn y Beili ei nodi鈥檔 un 鈥済och鈥, angen ei thrwsio, ac rydym yn amcangyfrif y byddai鈥檔 costio rhwng 拢50,000 a 拢100,000. Byddai angen yr arian hwn yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20. Er nad yw鈥檔 rhan o gynllun cyffredinol Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd y dyraniad hwn yn allweddol er mwyn i Gronfa Treftadaeth y Loteri gytuno ar eu cyfraniad terfynol at y cynllun.鈥 Teithio Llesol Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Teithio Llesol Sir y Fflint cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru pan maen cyfarfod ar 24 Hydref. Mae鈥檙 Cynllun yn rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 sydd wedi鈥檌 bwriadu i helpu mwy o bobl i ddewis cerdded neu feicio ar deithiau byr yn hytrach na defnyddio cerbydau, fel gyrru neu fynd ar y bws, pan mae hin addas iddynt wneud hynny. Er mwyn helpu i lunio cynllun lleol ar gyfer Sir y Fflint, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu anffurfiol cyn cynnal yr ymgynghoriad statudol rhwng 3 Gorffennaf a 24 Medi 2017. Bydd canlyniad y broses hon yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 3 Tachwedd er mwyn ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi ar dudalen we Teithio Llesol y Cyngor. Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 鈥淢aer Ddeddf Teithio Llesol yn rhoi cyfle i ni wneud Cymru鈥檔 genedl teithio llesol. Er bod y Ddeddf yn ymwneud yn benodol 芒 chysylltiadau 芒 gwasanaethau a chyfleusterau, mae Sir y Fflint yn cydnabod manteision teithio llesol o ran hamdden ac iechyd y gymuned. Felly, bydd unrhyw sylwadau a dderbynnir yn ystod y broses ymgynghori ynglyn 芒 defnyddio鈥檙 Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer y diben hwn yn cael eu hystyried pan mae cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith strategol yn cael eu datblygu. Gwytnwch Cymunedol Bydd gofyn i aelodau Cabinet Sir y Fflint gytuno ar Strategaeth Buddion Cymunedol y Cyngor wrth gyfarfod nesaf ar 24 Hydref. Un flaenoriaeth allweddol o Gynllun y Cyngor yw 鈥楥yngor Cysylltiedig鈥 gydag is-flaenoriaeth o Gymunedau Gwydn. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint hefyd wedi datblygu blaenoriaeth sy鈥檔 ymwneud 芒 鈥楥hymunedau Gwydn鈥. Mae鈥檙 Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd buddion cymunedol ac mae wedi nodi set o fuddion cymunedol y gellir eu defnyddio mewn pob math o gontractau caffael, ond sydd hefyd yn gallu cael eu defnyddio i asesu lefel y manteision cymunedol mae sefydliad yn eu darparu. Yn rhan o鈥檙 broses gaffael, bydd gofyn i sefydliadau nodi sut y byddant yn cyfrannu at amcanion manteision cymunedol ac fe fyddant yn cael eu hasesun rhan or gwerthusiad tendro. Bydd hyn yn cynnwys meysydd fel: 鈥 y camau iw cymryd er mwyn er mwyn darparu buddion cymunedol; 鈥 sut fydd y camau hyn yn sicrhau bod y buddion yn cael eu darparu; ac 鈥 y budd y bydd pob cam yn ei darparu i gymunedau. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae鈥檙 Cyngor wedi gweithio鈥檔 galed i dyfu鈥檙 sector cyhoeddus drwy ddatblygu mentrau cymdeithasol, trosglwyddo asedau cymunedol a modelau darparu eraill. Elfen allweddol o鈥檙 twf hwn yw datblygu mentrau cymdeithasol sydd o faint sylweddol ac syn gallu cefnogi datblygiad mentrau cymdeithasol eraill 鈥 fel Aura Leisure and Libraries, Cambrian Aquatics a Chanolfan Hamdden Treffynnon. Yn gryno, mae 24 o fentrau cymdeithasol neu sefydliadau cymdeithasol sy鈥檔 gweithredu o fewn Sir y Fflint dros y flwyddyn ddiwethaf wedi elwa o gymorth y Cyngor i helpu i鈥檞 datblygu, gan gynnwys y canlynol: Amser Babi Cymraeg, RainbowBiz, West 97色网 Community Enterprises, 97色网 Counselling CIC a Beyond the Boundaries CIC. Drwyr gwaith hwn, ynghyd 芒 rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol, mae llawer o asedau wedi鈥檜 trosglwyddo i fentrau cymdeithasol neu sefydliadau cymunedol, gan gynnwys: Pwll Nofio Cei Connah (Cambrian Aquatics), Neuadd Bentref y Waun, Llyfrgell yr H么b, Llyfrgell Treffynnon, Llyfrgell Mancot a Chanolfan Gymunedol Trelogan. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae llawer o waith eisoes wedii wneud i dyfur sector cymdeithasol a bydd y polisi hwn yn helpu i gynyddu faint o fuddion cymunedol y gall y Cyngor eu sicrhau o gaffael ei nwyddau a鈥檌 wasanaethau. Mae angen y dull arloesol hwn er mwyn sicrhau bod mwy o fuddion cymunedol yn cael eu darparu, sy鈥檔 helpu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein cymunedau lleol.鈥 Adolygu鈥檙 Sector Gofal Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint dderbyn adroddiad ar yr adolygiad o鈥檙 sector gofal pan mae鈥檔 cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis. Maer Cyngor yn wynebu her wirioneddol i ddarparu gwasanaethau yn nghyd-destun gofynion demograffig, amgylcheddol a chymdeithasol syn newid yn gyson ac mae angen iddo allu ymateb i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth a鈥檜 gofalwyr o fewn cyllideb gyfyngedig iawn. Rhagwelir y bydd poblogaeth hyn Sir y Fflint (+80) yn cynyddu 23% dros y 4 blynedd nesaf ac y bydd nifer y bobl hyn sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol sylweddol yn cynyddu 22% yn ystod yr un cyfnod. Mae risg amlwg na fydd y sector gofal yn gallu ei gynnal ei hun os nad ydym yn gweithredu. Mae gan Sir y Fflint gynllun rhagweithiol ar waith a fydd yn nodi blaenoriaethau a chynlluniau tymor byr, canolig a hir i helpu i fynd i鈥檙 afael 芒 rhai or materion brys. Mae darparwyr gofal cymdeithasol Sir y Fflint, fel darparwyr drwy鈥檙 wlad, yn wynebu pwysau ac yn poeni am gynaliadwyedd eu busnesau. Rhwng mis Mehefin a mis Medi, fe gomisiynodd Sir y Fflint adolygiad annibynnol o鈥檙 sector gofal preswyl a gofal nyrsio yn y sir. Yn arwyddocaol, roedd y canlyniadau鈥檔 dangos bod y pwysau mwyaf yn ymwneud 芒 recriwtio a chadw staff a phrynu defnyddiau traul, cyfleustodau, cyfarpar a gwasanaethau gwastraff. Roedd yr adolygiad yn nodi ffyrdd arloesol o gefnogi鈥檙 sector, gan gynnwys datblygu porth鈥 a fydd yn gweithio fel canolbwynt marcio a recriwtio lleol. Hefyd, gan weithio gydar T卯m Datblygu Busnes, mae cyfleoedd am wasanaethau micro-ofal yn cael eu hystyried. Mae鈥檙 rhain yn rhoi hyblygrwydd ac yn gweithredu ar raddfa fach, gan gyflogi llai na 5 o bobl, fel arfer, ac yn canolbwyntio ar grwp bach o gleientiaid. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae鈥檙 adroddiad hwn yn egluro bod Sir y Fflint yn arwain y ffordd yn genedlaethol wrth weithio鈥檔 gadarnhaol mewn partneriaeth gydan darparwyr gofal ac ystyried pob posibilrwydd i wella dyfodol hirdymor gofal cymdeithasol yn ein sir. Mae llythyr wedi鈥檌 lunio iw anfon gyda鈥檙 adroddiad, sy鈥檔 amlinellu ein hachos i Lywodraeth Cymru am fwy o gyllid, mynediad at adnoddau a chydnabyddiaeth lawn o anghenion y sector gofal cymdeithasol.鈥