Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu Gwobrau Dementia y Fflint
Published: 26/09/2017
Cynhaliodd Grwp Llywio Cyfeillgar i Ddementia y Fflint, ar y cyd 芒 Chyngor Sir
y Fflint, eu Gwobrau Busnes a Dathliad Cacennau Bach yn ddiweddar yn Eglwys y
Santes Fair a Dewi Sant.
Wedi鈥檌 noddi gan Wates Living Space, roedd y digwyddiad yn ddathliad ar gyfer
busnesau a sefydliadau yn y Fflint sydd wedi llwyddo i ennill statws Gweithio
tuag at fod yn Gyfeillgar i Ddementia, un ai am y flwyddyn gyntaf neu鈥檙 ail
flwyddyn yn olynol.
Maer busnesau hyn wedi addo cyflawni isafswm o dri cham gweithredu o unrhyw un
or ymrwymiadau a restrir isod:
Ymrwymiad 1: Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff (camau gweithredu yn
cynnwys: penodi hyrwyddwr dementia ar gyfer y sefydliad, gan roi dealltwriaeth
sylfaenol o ddementia i staff).
Ymrwymiad 2: Adolygu amgylchedd ffisegol y siop / adeilad (camau gweithredu yn
cynnwys: arwyddion clir yn y siop, mynedfeydd wediu goleuon dda).
Ymrwymiad 3: Cefnogi staff syn datblygu dementia neu鈥檔 gofalu am rywun 芒
dementia (mae camau gweithredu yn cynnwys: newid r么l y person, gan ddarparu
cwnsela yn fewnol).
Ymrwymiad 4: Cefnogir gymuned leol (camau gweithredu yn cynnwys: codi arian,
gwirfoddoli, partneriaethau elusennol).
Enillwyr y Gwobrau oedd:
Achrediad am yr ail flwyddyn:
路 Llyfrgell y Fflint
路 Banc Barclays
路 Fferyllfa Boots
路 Cartref Gofal Bryn Edwin
路 Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant
路 Ysgol Uwchradd y Fflint
路 Wates Living Space
路 Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint
路 Adnoddau Dynol Cyngor Sir y Fflint
路 Adran Datblygu Gweithlu Cyngor Sir y Fflint
Achrediad y flwyddyn gyntaf:
路 Banc Cymunedol Nat West
路 Cresta
路 Sandwiched
路 Cartref Gofal Rhiwlas
路 C么r Merched y Fflint
路 Sinema鈥檙 Fflint
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 Gwobrau hyn yn helpu i godi proffil dementia a dangos yr hyn y gall
sefydliadau ei wneud i wneud bywyd yn haws i bobl sydd 芒 dementia au
teuluoedd. Mae grwp Cyfeillgar i Ddementia y Fflint yn gweithio鈥檔 galed i godi
ymwybyddiaeth o ddementia ac mae鈥檔 ymrwymo i weithio gyda busnesau lleol,
ysgolion a grwpiau cymunedol yn y dref. Maer grwp yn dal i dderbyn cefnogaeth
dda gan y T卯m Cynllunio a Datblygu o Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir
y Fflint.鈥
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu
luke.pickering-jones@flintshire.gov.uk.