97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parc Arfordir Sir y Fflint

Published: 12/10/2022

97色网 Coast Path Study.JPGGofynnir i Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo鈥檙 ffordd ymlaen ar gyfer Parc Arfordir arfaethedig Sir y Fflint pan fyddant yn cwrdd ar 18 Hydref.

Mae datblygu Parc Arfordir wedi鈥檌 grybwyll ers tro, yn enwedig ers agor Llwybr Arfordir Cymru yn 2012.

Ym mis Mawrth eleni, cyflwynwyd adolygiad Parc Arfordir Sir y Fflint ac roedd cynghorwyr yn cefnogi鈥檙 dull i gomisiynu astudiaeth gwmpasu.

Nawr bod yr astudiaeth wedi鈥檌 chwblhau, mae鈥檔 archwilio鈥檙 buddion a鈥檙 cyfleoedd y gellid eu cyflawni trwy sefydlu Parc Arfordir Sir y Fflint.听 Gellid sicrhau gwelliannau yn yr amgylchedd busnes a鈥檙 economi ymwelwyr, y parth cyhoeddus a鈥檙 amgylchedd naturiol, gan ddarparu cyfraniad go iawn i fioamrywiaeth, newid hinsawdd a nodau economaidd-gymdeithasol.听 Mae鈥檙 astudiaeth hefyd yn archwilio dewisiadau ar gyfer 么l-troed posibl a chamau ar gyfer gweithredu.

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:

鈥淓r nad yw鈥檙 astudiaeth yn argymell unrhyw ddewis penodol, rydym yn credu, at ei gilydd, mai dewis dau yw鈥檙 mwyaf addas.听 Mae hyn yn canolbwyntio ar yr ardal o amgylch Llwybr Arfordir Cymru gyda chanolbwyntiau ar y ffin a 鈥榗horidorau gwyrdd鈥 sy鈥檔 cysylltu 芒 chymunedau cyfagos.听 听Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o natur a threftadaeth hynod yr ardal, denu rhagor o ymwelwyr a helpu i wrthdroi dirywiad amgylcheddol.鈥

Os caiff ei gymeradwyo, byddai鈥檙 gwaith yn dechrau er mwyn symud y prosiect yn ei flaen.听 Gyda gwaith sylweddol i鈥檞 wneud, disgwylir i鈥檙 Parc Arfordir gael ei lansio yn y gwanwyn 2024.