97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cabinet yn ystyried Safonau鈥檙 Gymraeg

Published: 14/07/2017

Fis nesaf bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo鈥檙 cynnydd sydd wedi ei wneud i gydymffurfio 芒 Safonau鈥檙 Gymraeg. Mae鈥檙 adroddiad yn darparu trosolwg o鈥檙 Adroddiad Iaith Blynyddol, y cynnydd sydd wedi ei wneud er mwyn cyrraedd y safonau ar meysydd sydd angen eu gwella. Diben cyffredinol y safonau yw datblygu a pharhau 芒 gwaith y cynlluniau iaith blaenorol. Nod y safonau yw cynyddu nifer y bobl syn defnyddio gwasanaethau Cymraeg ac maent yn cynnig arweiniad i sefydliadau ar yr hyn sydd ei angen arnynt i gyrraedd y nod hwn. Maer rhan fwyaf or safonau yn cyd-fynd 芒r ymrwymiadau a nodwyd yng Nghynllun Iaith Gymraeg blaenorol y Cyngor ac maer Cyngor yn parhau i wella mewn nifer o feysydd fel cyflwyno鈥檙 鈥楩framwaith Mwy na Geiriau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol gan eu rhoi mewn sefyllfa ardderchog i gyrraedd y safonau a darparu gwasanaethau dwyieithog. Erbyn 31 Mawrth eleni, roedd 82% o staff y Cyngor wedi cwblhaur archwiliad sgiliau iaith Gymraeg (40% y llynedd). Bydd mentrau pellach i wellar gyfradd ymateb ir archwiliad yn cael eu cyflwyno yn ystod y 12 mis nesaf. Mae mwy o weithwyr yn derbyn hyfforddiant iaith Gymraeg oi gymharu 芒 2015/16. Bu ir Comisiynydd Iaith ymchwilio i ychydig o gwynion yn ymwneud 芒鈥檙 Gymraeg. Roedd y rhain yn ymwneud 芒 chamsillafu geiriau ar arwyddion, gohebiaeth uniaith Saesneg, cwrs addysg ddim ar gael yn Gymraeg a鈥檙 amser a gymerwyd i ateb llinellau ff么n Cymraeg. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau y gellir cyrraedd y safonau newydd yn ymarferol, gan gydnabod daearyddiaeth a dadansoddiad demograffig o ardal y Cyngor. Er ein bod ni wedi derbyn cwynion, rydym ni parhau i gysylltu 芒鈥檙 Comisiynydd ac rydym ni鈥檔 gweithio鈥檔 galed i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 materion. 鈥淢aer Cyngor hefyd yn datblygu Strategaeth Hyrwyddor Gymraeg pum mlynedd o hyd a pholisi ar gyfer y Gymraeg yn y gweithle er mwyn sicrhau ein bod yn codi proffil y Gymraeg er mwyn helpu i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir a鈥檙 cyfleoedd i weithwyr ddefnyddio鈥檙 Gymraeg yn y gwaith.